Daisy Francesca Eltenton

My art practice involves photography, drawing, and ceramics. From a young age, Photography has allowed me to document my everyday life, taking pictures of my friends as we grew up, and depicting the struggles and joys along the way. My drawings have been a way of showing others how I see my surroundings, and details that might often be missed. Recently discovering ceramics has given me a means to become more deeply involved with people’s lives, as it brings physical, usable objects into our surroundings.

I believe that mealtimes, whether in a group or alone, are the ideal setting for conversations and an opportunity to get our thoughts in order. “Feeling Pots” is an attempt to reconsider tableware. These particular pieces are embedded with ideograms, representing eight different emotions any one of which we might feel at times. The rough, hand-built pieces, standing confident in their wonkiness, are meant to replace the usually pristine, machine-made crockery that we surround ourselves with. They are conversation pieces, that can help us to become more open about our emotions, and even bring humour to the table: your plate may be feeling as angry/happy/anxious as you. Each offers an opportunity to check in with how we are feeling. At the same time, they are reminders that not everything needs to be perfect, and in a world of immaculately manufactured goods, there’s comfort to be found in the irregular. Expressing our emotions is okay. If pots can have feelings, so can you.


Mae fy ymarfer celf yn cynnwys ffotograffiaeth, lluniadu a cherameg. Ers pan oeddwn yn ifanc, mae ffotograffiaeth wedi fy ngalluogi i gofnodi fy mywyd bob dydd, gan dynnu lluniau o’m ffrindiau wrth i ni dyfu, a darlunio’r brwydrau a’r llawenydd ar hyd y daith. Mae fy lluniadau wedi bod yn ffordd o ddangos i eraill sut dwi’n gweld fy amgylchedd, a manylion y gellid eu methu’n aml. Mae darganfod cerameg yn ddiweddar wedi rhoi modd i mi ymwneud yn fwy dwfn â bywydau pobl, gan ei fod yn dod â gwrthrychau corfforol y gellir eu defnyddio i’n hamgylchoedd.

Dwi’n credu bod amser bwyd, boed mewn grŵp neu ar eich pen ei hun, yn lleoliad delfrydol ar gyfer sgyrsiau ac yn gyfle i roi trefn ar ein meddyliau. Mae “Potiau Teimladwy” yn ymgais i ailystyried llestri bwrdd. Mae ideogramau’n rhan o’r darnau arbennig hyn, sy’n cynrychioli wyth emosiwn gwahanol y gallem eu teimlo ar unrhyw adeg. Mae’r darnau garw, a wnaed â llaw, sy’n sefyll yn hyderus yn eu simsanrwydd, i fod i ddisodli’r llestri, sy’n ddilychwin fel arfer ac wedi’u gwneud gan ddefnyddio peiriannau, rydym yn amgylchynu’n hunain â nhw. Maen nhw’n ddarnau i ysgogi trafodaeth, a all ein helpu i fod yn fwy agored am ein hemosiynau, a dod â hiwmor i’r bwrdd hyd yn oed: efallai bod eich plât yn teimlo’r un mor ddig/hapus/pryderus â chi. Mae pob un yn cynnig cyfle i ystyried sut rydym yn teimlo. Ar yr un pryd, maen nhw’n ein hatgoffa nad oes angen i bopeth fod yn berffaith, ac mewn byd o nwyddau a weithgynhyrchir yn dwt a thaclus, mae yna gysur i’w gael yn yr afreolaidd. Mae mynegi ein hemosiynau yn iawn. Os gall potiau gael teimladau, fe allwch chi hefyd.

www.daisyeltenton.com