Self-Sourcing Materials – a life Defined in Relation to the Earth

“Every object, well contemplated, opens up new organs of perception within us.”
– Johann Wolfgang von Goethe

In this body of work, I wanted to know if the experience of seeing, handling and using a fired pot could be as contemplative an experience as making it. When I make a pot, I rely on my skills to take me through the process, however I am not guided by them. I try to follow my intuition and that of the material in the hopes of producing vessels with spontaneity and vitality. In my practice I try to harmonise the qualities of mark making on raw clay and applying slips with the glazes I create though I don’t shy away from aesthetic dissonance. I simply see it as an opportunity for more personal reflection. Within the studio I have come to value gathering local materials to use as glazes, such as slate and sand from the River Taff and wood ash from my childhood home. I find cleaning and curating the studio space to be both calming and clarifying. In that sense the habits of making show me a reflection of my own human nature. Thus, in the aesthetic choices we make when we curate the objects in our home and our lives there is an opportunity to abstract the qualities of our deepest human nature through contemplation.


“Mae pob gwrthrych, o’i ystyried yn ddigonol, yn agor organau canfyddiad newydd oddi mewn i ni.”
– Johann Wolfgang von Goethe

Yn y corff hwn o waith, roeddwn eisiau gwybod a allai’r profiad o weld, trin a defnyddio llestr wedi’i danio fod yn brofiad mor ddwys-ystyriol â’i greu. Pan fyddaf yn llunio llestr, rwy’n dibynnu ar fy sgiliau i fynd â mi drwy’r broses, ond heb gael fy arwain ganddyn nhw. Rwy’n ceisio dilyn fy ngreddf i a greddf y deunydd yn y gobaith o greu llestri digymell a bywiog. Yn fy ymarfer, rwy’n ceisio cysoni rhinweddau creu marciau ar glai amrwd a chymhwyso slipiau gyda’r gwydreddau rwy’n eu creu, ond heb adael i anghyseinedd esthetig fy nychryn. Yn syml, rwy’n ei ystyried yn gyfle am adfyfyrio mwy personol. Yn y stiwdio, rydw i wedi dod i werthfawrogi casglu deunyddiau lleol i’w defnyddio fel gwydreddau, fel llechi a thywod o’r Afon Taf a lludw coed o’m cartref pan oeddwn i’n blentyn. Mae glanhau a chadw trefn ar ofod y stiwdio yn tawelu a chlirio fy meddwl. Yn yr ystyr hwnnw, mae arferion creu yn dangos adlewyrchiad i mi o fy natur ddynol fy hun. Felly, ynghlwm wrth y dewisiadau esthetig a wnawn wrth gasglu’r gwrthrychau yn ein cartref a’n bywydau, mae adfyfyrio’n cynnig cyfle i graffu ar rinweddau dyfnaf ein natur ddynol.