Archetypal Objects: A Serene Domesticity
Our natural tendency is to find meaning within everything. Even function is an explicit exploration of human connection, with values uncovered through use. We look for and are drawn to a vessels more arcane details, then make wider connections between the object and our existence.
Objects with such a powerful sense of the familiar are archetypes from our collective existence. Yet for a potter they sit in a mid-space between the domestic; synonymous with use, and a drive to redefine our daily experience.
The role of art is to condition this more enquiring state of mind but if too self-conscious, can end up saying very little at all.
Mae’n dueddiad naturiol i ni ddod o hyd i ystyr i bob dim. Mae swyddogaeth yn archwiliad penodol o gysylltiad dynol hyd yn oed, gyda gwerthoedd yn cael eu datgelu drwy ddefnydd. Rydym ni’n chwilio am fanylion dirgel llestri, yn cael ein denu atynt, yna’n llunio cysylltiadau ehangach rhwng y gwrthrych a’n bodolaeth ni.
Mae gwrthrychau sy’n meddu ar ymdeimlad mor bwerus o’r cyfarwydd yn archdeipiau o’n cydfodolaeth. Eto, i grochenydd, maen nhw yn y tir canol rhwng y cartref, yn gyfystyr â’u defnydd, a chymhelliant i ailddiffinio ein profiad beunyddiol.
Rôl celf yw cyflyru’r meddwl mwy ymchwilgar hwn, ond os yw’n rhy hunanymwybodol, gall arwain yn y pen draw at ddweud fawr o ddim.