Interior design in its many forms, surrounds us every day and has proven effects on mood and well-being. Design effectively creates feeling and is pivotal in communicating a successful design scheme and story. I strongly believe that it is only once I have found innovative ways to communicate and illustrate my schemes that I can truly begin to sell the concept.
As a creative, I am hugely passionate about communicating my design practices in a high-quality visual manner that clearly tells the story that a space creates. I thrive in situations where visual concepts can be hard to convey, and I seek new and innovative ways in which I can present mood and feeling. Visualization can be incredibly broad and open to misinterpretation which is why I feel so strongly about designing illustrations that convey key aspects with great ease. The visuals I create allow me to show my contemporary and industrial design style that I utilise when approaching briefs and projects. My bold and impactive approach paired with my strong visual aids make me a valuable addition to any design, visualization or communication-based team.
Mae dylunio mewnol yn ei amryfal ffurfiau, yn ein hamgylchynu bob dydd ac yn cael effeithiau profedig ar hwyliau a lles. Mae dylunio yn y bôn yn creu teimlad ac yn ganolog wrth gyfathrebu cynllun a stori ddylunio lwyddiannus. Rwy’n credu’n gryf mai dim ond ar ôl i mi ganfod ffyrdd arloesol o gyfathrebu a darlunio fy nghynlluniau y gallaf i ddechrau gwerthu’r cysyniad o ddifrif.
Fel rhywun creadigol, rwy’n teimlo’n angerddol iawn ynghylch cyfleu fy arferion dylunio mewn modd gweledol o ansawdd uchel sy’n adrodd y stori y mae gofod yn ei chreu mewn ffordd glir. Rwy’n ffynnu mewn sefyllfaoedd lle gall cysyniadau gweledol fod yn anodd eu cyfleu, ac rwy’n chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno hwyliau a theimlad. Gall delweddu fod yn anhygoel o eang ac yn agored i gael eu camddehongli a dyna pam rwy’n teimlo mor gryf am ddylunio darluniau sy’n cyfleu agweddau allweddol yn rhwydd iawn. Mae’r delweddau gweledol rwy’n eu creu yn fy ngalluogi i ddangos fy arddull dylunio cyfoes a diwydiannol y byddaf yn ei defnyddio wrth ymdrin â briffiau a phrosiectau. Mae fy null beiddgar a chryf law yn llaw â’m cymhorthion gweledol cryf yn fy ngwneud yn gaffaeliad gwerthfawr at unrhyw dîm dylunio, delweddu neu gyfathrebu.