I express myself through the process of construction through deconstruction, and most of my crafts include homemade DIY guitars and 3 string slide guitars. some projects include creating instruments out of used hurling sticks, skateboards, and various other objects. I like to combine engineering and creativity which is informed by my background in engineering and advanced knowledge of mechanics and physics, this plays a key role in my art work through the uses of string dynamics, harmonics and intonation, and alongside with this I use electrical understanding to amplify my works electronically to create the sound for performances with my artwork.
As well as the sculpture-based artwork, I also delve in the music scene and performance art. I have a recording studio at home so any projects I make I can use this in my music producing to create soundscapes. I like pairing music and performance artwork together as it brings in a whole new element to my practice, as I have a wide range of knowledge in multiple fields of art forms.
In addition to the physical gallery I have created an online virtual gallery using HTML and JavaScript code to showcase a nomadic gallery, creating an interactive experience to show the demonstrations of each guitar project I have created.
Rwy’n mynegi fy hun drwy broses o adeiladu drwy ddadadeiladu, ac mae’r rhan fwyaf o fy ngwaith crefft yn cynnwys gitarau DIY cartref a gitarau sleid tri thant. Mae fy mhrosiectau yn cynnwys llunio offerynnau o ffyn hyrli, sglefrfyrddau a gwrthrychau amrywiol eraill. Rwy’n hoffi cyfuno peirianneg a chreadigrwydd, ac mae hynny’n cael ei lywio gan fy nghefndir mewn peirianneg a gwybodaeth ddatblygedig o fecaneg a ffiseg. Mae hynny’n rhan allweddol o’m gwaith celf, gyda’r defnydd o ddynameg, harmoneg a thonyddiaeth tannau, ac ar y cyd â hynny, rwy’n defnyddio dealltwriaeth o drydan i fwyhau’r gwaith yn electronig i greu’r sain ar gyfer perfformiadau gyda fy ngwaith celf.
Yn ogystal â’r gwaith celf sy’n seiliedig ar gerfluniau, rydw i hefyd yn ymchwilio i’r sin gerddoriaeth a chelfyddyd berfformiadol. Mae gen i stiwdio recordio gartref felly gallaf ei defnyddio i gynhyrchu cerddoriaeth a chreu seinweddau ar gyfer unrhyw brosiect. Rwy’n hoffi paru cerddoriaeth a gwaith celfyddyd berfformiadol, gan ei fod yn cyflwyno elfen hollol newydd i’m hymarfer, ac yn manteisio ar fy ystod eang o wybodaeth mewn sawl maes o ffurfiau celf.
Yn ogystal â’r oriel ddiriaethol, creais oriel rithwir ar-lein gan ddefnyddio cod HTML a JavaScript i lunio oriel grwydrol, gan greu profiad rhyngweithiol i arddangos pob prosiect gitâr a grëwyd gennyf.