Mapping our Sensorial Field

To live in the world is a bodily experience; we are formed in part by the textures, sounds, smells and shapes that surround us as we grow. The laws of ecology tell us that everything is connected, and yet our physical relationship to the earth is becoming increasingly disembodied and fraught.

This belies the reality that we are part of a delicate network, entangled in a material world that is the basis for our very being. We need to find our way back, to re-engage ourselves with the land before it is too late.

I work in order to reassert a tactile and sensual engagement with the world. Inspiration for the form comes from shapes in the land; the curve of a river bend, the swoop of the brow of a hill. The pieces are built through a slow and steady rhythmical coiling of clay, then covered with slip or inscribed with porcelain, a mesh of dots forming an awkwardly geometric counterpoint to the organic form. Firing to 1200°C reveals the rich colours of the raw clay, a minimal palette of earthy tones created through the blending of clay bodies.

Through the larger scale pieces I hope to create engulfing environments; sculptures that fill your peripheral vision and must be moved around to explore fully. They work to promote a convivial relationship between the viewer and the land, to reconnect the body with its wider environmental network. A reminder that all interaction is a bodily experience.


Mae byw yn y byd yn brofiad corfforol; rydym wedi’n ffurfio’n rhannol gan y gweadau, seiniau, aroglau a siapiau sy’n ein hamgylchynu wrth i ni dyfu. Mae’r cyfreithiau ecolegol yn dweud wrthym fod popeth yn gysylltiedig, ac eto mae ein perthynas gorfforol â’r ddaear yn mynd yn gynyddol anghorfforol a gofidus.

Mae hyn yn gwrthbrofi’r realiti yr ydym yn rhan o rwydwaith main, wedi’n maglu mewn byd materol sy’n sail i’n bodolaeth. Mae angen i ni gael hyd i’n ffordd yn ôl, i ailgydio yn y tir cyn y bydd yn rhy hwyr.

Rwy’n gweithio er mwyn ailddatgan ymgysylltiad cyffyrddol a synhwyraidd â’r byd. Daw ysbrydoliaeth ar gyfer y ffurf o siapiau yn y tir; cromlin tro yn yr afon, disgynfa ael y bryn. Mae’r darnau wedi’u creu trwy torchi’r clai’n araf ac yn gyson mewn ffordd rhythmig, wedyn eu gorchuddio â slip neu eu hysgythru â phorslen, masg o ddotiau sy’n ffurfio gwrthbwynt lletchwith o geometrig i’r ffurf organig. Mae tanio i 1200°C yn datgelu lliwiau cyfoethog y clai crai, palet minimalaidd o donau priddlyd a grëir trwy gymysgu cyrff clai.

Trwy’r darnau graddfa fwy rwy’n gobeithio creu amgylcheddau amlyncol; cerfluniau sy’n llenwi ein golwg perifferol y mae’n rhaid eu symud o gwmpas i’w harchwilio’n llawn. Maent yn gweithio i hyrwyddo perthynas siriol rhwng y gwyliwr a’r tir, i ailgysylltu’r corff a’i rwydwaith amgylcheddol ehangach. Atgoffâd bod yr holl ryngweithio’n brofiad corfforol.