My interest lies in organic shapes, and the abstraction of them. I use a range of materials and processes in my work, focusing on the 2d, including acrylic paint, watercolour, collage, pens, stitch and fabric. Usually working on a larger scale, I like to include bold shapes and bright colours, often complimentary, with expressive marks and movement. Big shapes are broken up by the addition of overlaid details, which both interact with and contradict the base layers. I try to include contrast in all my work, either between the colours or the shapes or both – between harsh and soft. I also like to focus on juxtaposition, bringing two ideas together that conflict with each other. There is an element of quick, large movements and marks contrasted with smaller marks and drawings.
Mae gen i ddiddordeb mewn ffurfiau organig, a’u mynegi yn haniaethol. Rwy’n defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a phrosesau yn fy ngwaith, gan ganolbwyntio ar 2D, yn cynnwys paent acrylig, dyfrlliw, collage, beiros, pwytho a ffabrig. Gan weithio ar raddfa eang fel arfer, rwy’n hoff o gynnwys ffurfiau beiddgar a lliwiau llachar, yn aml yn gyflenwol, gyda marciau a symudiadau mynegiadol. Rwy’n torri ar draws y ffurfiau mawr drwy ychwanegu haenau o fanylion arnynt, sy’n rhyngweithio â’r haenau sylfaen ac yn mynd yn groes iddyn nhw hefyd. Rwy’n ceisio cynnwys cyferbyniad yn fy holl waith, naill ai rhwng y lliwiau neu’r ffurfiau neu’r ddau – rhwng y llym a’r esmwyth. Rydw i hefyd yn hoffi canolbwyntio ar gyfosodiad, cyfuno dau syniad sy’n gwrthdaro â’i gilydd. Mae yna elfen o symudiadau a marciau cyflym a mawr sy’n cyferbynnu â marciau a lluniadau llai.