William Treasure

Our over exposure to common objects results in us viewing them in a synecdochic fashion. We disregard the complex nature of objects, our overuse of them obfuscates their identity, hindering our appreciation of them, limiting our experience of them. We don’t see a bowl when we use a bowl. Instead we see a stack of bowls, a bowl full of food, a dirty bowl, a drying bowl, a bowl to be put away, a stack of bowls. The accoutrements feel inseparable, but changeable. The moments that a bowl is isolated are rare and feel incomplete.

Bowls are and always have been in extreme proximity to us, they are not introduced to us in a state where we can examine them as a novelty, but as underdeveloped beings who have no choice but to take objects as fait accompli. The bowl fades to beyond the periphery, to join the amalgam of unconsidered but consequential things that dictate countless aspects of our experience.

By distilling an object to its component characteristics we can change our perspective of it and gain a new appreciation for the object from a distance. In using a bowl we look through it, ignoring it, but removing the bowl and revealing the characteristics that comprise it is to see the bowl. To see the bowl from a distance is to see the bowl no longer as a bowl, but as a complex entity. Distance allows understanding, to be far allows us to draw near.


Mae ein cysylltiad gormodol â gwrthrychau cyffredin yn golygu ein bod ni’n eu gweld nhw mewn modd gydgymeriadol. Rydym yn diystyru natur gymhleth gwrthrychau, mae ein gorddefnydd ohonynt yn cymylu eu hunaniaeth, gan rwystro ein gwerthfawrogiad ohonynt, a chyfyngu ar ein profiad ohonynt. Nid ydym yn gweld powlen pan fyddwn ni’n defnyddio powlen. Yn hytrach, gwelwn bentwr o bowlenni, powlen llawn bwyd, powlen fudr, powlen sychu, powlen i’w chadw, pentwr o bowlenni. Mae’r cyfarpar yn teimlo’n anwahanadwy, ond yn newidiol. Mae’r eiliadau y mae powlen wedi’i hynysu yn brin ac yn teimlo’n anghyflawn.

Mae powlenni wedi bod yn agos iawn atom ni erioed ac yn parhau i fod felly, ni chânt eu cyflwyno i ni mewn cyflwr lle gallwn eu harchwilio fel rhywbeth newydd, ond fel bodau heb ddatblygu’n ddigonol sydd heb ddewis ond i dderbyn gwrthrychau fel fait accompli. Mae’r bowlen yn pylu y tu hwnt i’r cyrion, i ymuno â chyfuniad o bethau o bwys ond heb eu hystyried sy’n pennu agweddau di-ri ar ein profiad.

Trwy ddistyllu gwrthrych i’w nodweddion cydrannol gallwn newid ein safbwynt ohono a chael gwerthfawrogiad newydd o’r gwrthrych o bell. Wrth ddefnyddio powlen rydym yn edrych drwyddi, gan ei hanwybyddu, ond symud y bowlen ymaith a datgelu’r nodweddion sy’n rhan ohoni yw gweld y bowlen mewn gwirionedd. Mae gweld y bowlen o bell yn golygu peidio gweld y bowlen fel powlen mwyach, ond fel endid cymhleth. Mae pellter yn caniatáu dealltwriaeth, ac mae bod yn bell yn ein galluogi i agosáu.

www.williamtreasure.com