How do you build a feminist? With sugar and spice, along denim, body hair, and of course, the souls of men they’ve consumed. But what happens when a feminist isn’t what you think? When a feminist is your daughter, girlfriend, sister?
How to Build a Feminist explores stereotypes in feminism and re-signifies who and what a feminist is. Highlighting unorthodox feminism with floriography, a floral language used by suffragettes, re-imagined for a contemporary generation.
It explores new feminists, women of screen, literature and rebellion who never make it to bedtime-books for little adherence to stereotypes. These women are beautiful, fierce, clever, sassy. They’re the women who shaped me as a feminist, false eyelashes, big hair and all.
The stitch acts as re-signification of traditional crafts used to oppress women, giving it new life as celebratory and digitalised for a new definition of feminist who can slay a selfie whilst changing the world.
My illustrative brand Lady Garden works with equality and dark-topics through re-signification and humour. Making the hard-to-swallow beautiful and sugarcoated to become the catalyst for positive change. It uses creative activism through education, cultivating new norms of liberal thinking and becoming a flowery platform for the voices of others. Strengthening ideas to make the world a better place for everyone regardless of taxonomy.
Inspired by Petra Collins and Linder Sterling, Lady Garden exists of research combining beauty with brains, conquering the world prettily and never taking itself too seriously. Scan the QR code to find out more!
Sut ydych chi’n adeiladu ffeminydd? Gyda siwgr a sbeis, a denim, blew’r corff ac, wrth gwrs, eneidiau’r dynion a feddiannwyd ganddynt. Ond beth sy’n digwydd pan na fydd ffeminydd yn cyfateb i’ch syniad chi ohoni? Pan fydd ffeminydd yn ferch, yn gariad, yn chwaer i chi?
Mae ‘How to Build a Feminist’ yn archwilio ystrydebau ym maes ffeministiaeth ac yn mynegi o’r newydd pwy a beth yw ffeminydd. Mae’n amlygu ffeministiaeth anghonfensiynol gyda “floriography”, iaith y blodau a ddefnyddiwyd gan swffragetiaid, wedi’i hailddychmygu ar gyfer cenhedlaeth gyfoes.
Mae’n archwilio ffeminyddion newydd, menywod y sgrin, llenyddiaeth a gwrthryfel na chyrhaeddant fyth lyfrau erchwyn y gwely o wrthod y stereoteip. Mae’r menywod hyn yn dlws, yn ffyrnig, yn ddeallus, yn ffraeth. Nhw yw’r menywod a’m lluniodd i fel ffeminydd, menywod ffug eu hamrannau, mawr eu gwallt a phob dim arall.
Pwrpas y pwyth yw mynegi o’r newydd y crefftau traddodiadol a ddefnyddiwyd i orthrymu menywod, gan roi bywyd newydd iddo, yn ddathliadol ac yn ddigidol ar gyfer diffiniad newydd o ffeminydd sy’n gallu hoelio hunlun tra’n newid y byd.
Mae fy mrand darluniadol, Lady Garden, yn gweithio gyda chydraddoldeb a phynciau tywyll trwy fynegiant o’r newydd a hiwmor. Rhoddir gwedd brydferth a siwgraidd ar yr anodd ei lyncu er mwyn iddo fod yn gatalydd ar gyfer newid cadarnhaol. Mae’n defnyddio actifiaeth creadigol trwy addysg, gan feithrin normau newydd meddwl yn rhyddfrydol a datblygu’n llwyfan blodeuog ar gyfer lleisiau pobl eraill. Mae’n cryfhau syniadau i wneud y byd yn lle gwell i bawb dim ots am reolau dosbarth.
Wedi’i ysbrydoli gan Petra Collins a Linder Sterling, mae Lady Garden yn cwmpasu ymchwil sy’n cyfuno prydferthwch a deallusrwydd, gan goncro’r byd yn brydferth a pheidio byth a chymryd ei hun ormod o ddifrif. Sganiwch y cod QR i ddysgu rhagor!