My response to any project is research-based, I begin by gathering images and reading into a theme or topic, before producing rough ideas which sometimes lead nowhere, but frequently lead me in unexpected directions. Often, such research demands a response created in a particular media. I have extensively used 3D modelling, hand-drawn animation, digital animation, gifs, digital illustrations, as well as traditional illustration techniques, to produce often unexpected outcomes.

My work is often inspired by simple form and colour. Mary Blair and MinaLima are two of my key influences. The simplicity and playful colour palette demonstrated in their work, coupled with their ability to meld a child’s fresh eye with an adult’s experience, inspire me to reduce complex concepts into simple forms.
Looking back over the last few years, I have come to realise that ultimately my work always has a central focus of loss and grief, which can be traced back to personal losses within the family from an early age. As such, I use my work as a coping mechanism whilst also attempting to elicit a response from people who have both experienced loss, and those who have yet to.


Mae fy ymateb i unrhyw brosiect yn digwydd ar sail ymchwil. Rwy’n dechrau drwy gasglu delweddau a darllen am y thema neu’r pwnc, cyn cynhyrchu syniadau bras sydd weithiau’n arwain i unman, ond yn aml yn fy arwain i gyfeiriad annisgwyl. Fel arfer, mae ymchwil o’r fath yn gofyn am ymateb sydd wedi’i greu drwy gyfrwng penodol. Rydw i wedi gwneud defnydd helaeth o fodelu 3D, animeiddio â llaw, animeiddio digidol, gifs, darluniau digidol, yn ogystal â thechnegau darlunio traddodiadol, i gynhyrchu canlyniadau sy’n aml yn annisgwyl.

Mae fy ngwaith yn aml yn cael ei ysbrydoli gan liw a ffurf syml. Mary Blair a MinaLima yw dau o fy mhrif ddylanwadau. Mae’r symlrwydd a’r palet lliw chwareus sy’n cael ei ddefnyddio yn eu gwaith, yn ogystal â’u gallu i gyfuno llygad ffres plentyn â phrofiad oedolyn, yn fy ysbrydoli i droi cysyniadau cymhleth yn ffurfiau syml.
Wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi dod i sylweddoli mai colled a galar yw canolbwynt fy ngwaith yn y pen draw, ac mae modd olrhain hynny i golli aelodau o’r teulu pan yn ifanc. Yn hynny o beth, rwy’n defnyddio fy ngwaith fel dull o ymdopi ond hefyd yn ceisio ennyn ymateb gan bobl sydd wedi profi colled, a’r rhai sydd eto i wneud hynny.