If there is a word which describes me, it is creativity. Since I was young, art and imagination had always been my strengths. It is because of this reason that I realised my dream to pursue my aspiration of being an “artist” and transform it into my future career.
My interests are everything to do with creativity and art. I am a creative writer, who has recently published my first book in my native language, Italian, and I am currently working on translating it into English and writing other stories. In my daily life, I cultivate the passion for drawing, which I get my inspiration from the many animations, comic books, and video games I admire. Moreover, I enjoy 3D Modelling and my dedication has brought me to the realisation of some 3D environments and my very first 3D character. Furthermore, I have created some 2D digital animations and plan to create 3D animations also.
I am always willing to learn new software and techniques and practice my drawing, animating, and modelling skills. I look up to the work of big animation and video game companies and I am passionate for illustration and comic art. My dream is to combine all my passions and contribute to the realisation of an animated movie or series, video game or comic book and, in the meantime, I will continue to treasure my passion for writing and publish my stories or convert my ideas into a comic or animation.
Os oes gair sy’n fy nisgrifio, creadigrwydd ydyw. Ers i mi fod yn ifanc, celf a dychymyg oedd fy nghryfderau erioed. Gan hynny fe wireddais fy mreuddwyd i ddilyn fy nyhead o fod yn “artist” a’i wneud yn yrfa i mi yn y dyfodol.
Mae fy niddordebau’n ymwneud â chreadigrwydd a chelf. Rwy’n awdur creadigol, sydd wedi cyhoeddi fy llyfr cyntaf yn ddiweddar yn fy iaith frodorol, Eidaleg, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar ei gyfieithu i’r Saesneg ac ysgrifennu storïau eraill. Yn fy mywyd bob dydd, rwy’n meithrin yr angerdd dros dynnu lluniau, ac rwy’n cael fy ysbrydoliaeth o’r llu o animeiddiadau, llyfrau comig a gemau fideo rwy’n eu hedmygu. At hynny, rwy’n mwynhau Modelu 3D ac mae fy ymroddiad wedi dod â mi at wireddu rhai amgylcheddau 3D a’m cymeriad 3D cyntaf erioed. Ar ben hynny, rwyf wedi creu rhai animeiddiadau digidol 2D ac yn bwriadu creu animeiddiadau 3D hefyd.
Rwyf bob amser yn barod i ddysgu meddalwedd a thechnegau newydd ac ymarfer fy sgiliau lluniadu, animeiddio a modelu. Rwy’n edrych i fyny at waith cwmnïau animeiddio a gemau fideo mawr ac rwy’n angerddol dros ddarlunio a chelf comigau. Fy mreuddwyd yw cyfuno fy holl angerddau a chyfrannu at wireddu ffilm neu gyfres wedi’i hanimeiddio, gêm fideo neu lyfr comig ac, yn y cyfamser, byddaf yn parhau i drysori fy angerdd dros ysgrifennu ac yn cyhoeddi fy storïau neu drosi fy syniadau yn gomig neu animeiddio.