I strongly believe that every space should have an identity with which we should connect and embody. Whether we feel a sense of calm and belonging or excitement and interest, it is vital that the spatial design evokes emotion in order for the user to fully affiliate with a space.
With a fresh, yet sophisticated approach to designing, my strengths lie within the ideation stage and revolve around space planning – ensuring that every corner is mapped appropriately with a focus on the use and flow within each area of a space. By having a sound knowledge of phenomenology and being confident in my actions, I create projects which centre the user experience and promote immersive design through thoroughly integrated schemes.
As a result of exposure to a variety of projects both throughout my degree and work placements, I have proven that I can successfully implement this approach in any tasked situation. Through applying sensory installation lighting that connects spaces seamlessly; creating an interesting movement throughout the host building. This in turn creates a natural flow for the user to roam within, whilst adding an element of surprise to a usually neglected ceiling area; producing a sense of awe and intrigue for the user to explore.
Rwy’n credu’n gryf y dylai fod hunaniaeth gan bob gofod y dylen ni fod yn gallu cysylltu â’r hunaniaeth honno a’i hymgorffori. P’un ai y cawn rhyw ymdeimlad o lonyddwch ac o fod yn perthyn neu o gyffro a diddordeb, mae’n hollbwysig bod y dylunio gofodol yn creu emosiwn er mwyn i’r defnyddiwr gael teimlo perthynas lawn â’r gofod.
A minnau gydag agwedd ffres sydd eto’n soffistigedig tuag at ddylunio, mae fy nghryfderau yn y cyfnod syniadu a throi o gwmpas cynllunio gofod – sicrhau bod pob cornel wedi’i fapio’n briodol a chanolbwyntio ar y defnydd a’r llif o fewn pob ardal yn y gofod. Drwy fod â gwybodaeth sicr o ffenomenoleg ac yn hyderus o ran fy ngweithredoedd, byddaf yn creu prosiectau a fydd yn rhoi profiad y defnyddiwr yn y canol ac yn hyrwyddo dyluniadau ymgolli drwy gynlluniau integredig iawn. O fod wedi bod yn rhan o amrywiaeth o brosiectau drwy gydol cyfnod fy ngradd a’m lleoliadau gwaith, rwyf wedi profi fy mod yn gallu defnyddio’r dull hwn yn llwyddiannus ar gyfer unrhyw dasg. Drwy ddefnyddio golau synhwyraidd sy’n cysylltu gofodau’n llyfn, gan greu symud diddorol drwy’r adeilad perthnasol. Yn ei dro bydd hyn yn creu llif naturiol i’r defnyddiwr gael crwydro ynddo, gan ychwanegu elfen o syndod mewn rhan o’r nenfwd a gaiff ei esgeuluso fel arfer, gan greu ymdeimlad o arswyd a chwilfrydedd y gall defnyddiwr ei archwilio.