The original concept behind this collection “UNKNOWN ABYSS” was influenced by the deep sea, which developed into researching closer into jellyfish when a headline shocked me. The headline stated that there are already more masks than jellyfish in our ocean due to the current pandemic. This also sparked my interest to research into sustainability and global warming.
Using certain fabrics I tried to capture the movement of a jellyfish in water by draping on a mannequin. With sustainability as a focus point in my research, each draped garment was created from one piece of fabric carefully hand sewn in place. This technique ensures no waste as every part of the fabric is used. In addition I also incorporated one use mask straps within my designs not only to give them a second purpose but I was also astonished at how many masks I came across littered on the floor while walking home from university.
I love experimenting with prints and colour and this collection demonstrates that. I hand dyed my material with a variety of colours blending together to create an intricate print. I am influenced by many designers but two collections that have inspired me in particular for my collection “UNKNOWN ABYSS” have been; Alexander McQueen’s ‘Plato Atlantis’ and Iris Van Herpen’s ‘Sensory Seas’.
Dylanwadwyd ar y cysyniad gwreiddiol y tu ôl i’r casgliad “UNKNOWN ABYSS” hwn gan y môr dwfn, a ddatblygodd i ymchwilio’n agosach i sglefrod môr pan gefais fy syfrdanu gan bennawd. Nododd y pennawd fod eisoes mwy o fasgiau wyneb na sglefrod môr yn ein cefnfor oherwydd y pandemig presennol. Arweiniodd hyn hefyd at fy niddordeb mewn ymchwilio i gynaliadwyedd a chynhesu byd-eang. Gan ddefnyddio rhai ffabrigau penodol ceisiais ddal symudiad sglefren fôr mewn dŵr drwy daenu llain dros fannequin.
Gyda chynaliadwyedd yn ganolbwynt yn fy ymchwil, crëwyd pob dilledyn a daenwyd o un darn o ffabrig wedi’i wnïo’n ofalus. Mae’r dechneg hon yn sicrhau nad oes unrhyw wastraff gan fod pob rhan o’r ffabrig yn cael ei ddefnyddio.
Yn ogystal, fe wnes i hefyd ymgorffori strapiau masg y gellir ei ddefnyddio fwy nag unwaith o fewn fy nghasgliadau nid yn unig i roi ail bwrpas iddynt ond fe’m syfrdanwyd hefyd ynghylch faint o fasgiau y deuthum ar eu traws yn frith ar y llawr wrth gerdded adref o’r brifysgol. Rwyf wrth fy modd yn arbrofi gyda phrintiau a lliw ac mae’r casgliad hwn yn dangos hynny. Fe wnes i liwio fy neunydd â llaw gydag amrywiaeth o liwiau’n cymysgu gyda’i gilydd i greu print cymhleth. Mae llawer o ddylunwyr yn dylanwadu arnaf ond mae dau gasgliad sydd wedi fy ysbrydoli’n arbennig ar gyfer fy nghasgliad “UNKNOWN ABYSS” sef; ‘Plato Atlantis’ gan Alexander McQueen a ‘Sensory Seas’ gan Iris Van Herpen.