Thanatopsis
Mae fy ngwaith yn archwilio fewn i lawdriniaeth deunyddiau drwy arbrofi gyda themâu o natur, a gwrthrychau sydd wedi casglu a’i ddarganfod. Ceisiwn ddefnyddio fy celflynwaith i ymchwilio fewn i’r chwilfrydedd o’r synnwyr teimlo gan greu gwrthrychau sy’n denu chware a rhyngweithio. Maen diddorol ymchwilio sut mae gwead, defnydd, lliw ac arddangosiad yn effeithio ein hymwybyddiaeth o weld a theimlo. Rwyf yn gweithio yn amlddisgyblaethol mewn 3d a 2d sy’n cyferbynnu, mae’r dwy ffordd o weithio yn dylanwadu ei gilydd i greu syniadau a ffurf newydd yn fy ngwaith.
Mae’r gwrthrychau wedi arddangos ar y llawr, dyma ble darganfyddai’r gwrthrychau greithio. Mae siâp petryal y bocs yn seiliedig ar y bocs esgidiau mae’r gwrthrychau wedi casglu mewn, ac mae’n cyfeirio at y proses o roi eiddo mewn bocsys ac anghofio amdano.
Mae’r gwaith yn cynrychioli’r byd natur, hadau, bywyd a phwysigrwydd greadigaeth. Ceisiwn dangos harddwch y byd natur syn cael ei cholli oherwydd dylanwad dynoliaeth ar y ddaear. Mae’r eitemau yn dangos pa mor werthfawr yw natur yn enwedig pan maen anghyffyrddadwy, felly ni ddylai cymred fantais o’r ddaear a natur oherwydd ei hygyrchedd.