Engagement and interactivity is the core of my practice. My aim is to create work that is thought provoking, interactive and exciting for the audience. I use my object making skills to design experiences that work across a range of topical themes including reality, sustainability and environment. These experiences are designed to both inform and challenge our perceptions in new and interesting ways. I am a multi-medium artist, working with crafted objects, often upcycling materials, using physical computing, lighting, mirrors and colour to create narratives and illusions that are beyond the mundane. I seek to make work that reflects the hidden layers that are not obvious, transforming the all-too-familiar home environment into an uncanny, humourous and creative exhibition space.
Mae ymgysylltu a rhyngweithio wrth wraidd fy arfer. Fy nod yw creu gwaith sy’n ysgogi’r meddwl, yn rhyngweithiol ac yn gyffrous ar gyfer y gynulleidfa. Rwy’n defnyddio fy sgiliau gwneud pethau i ddylunio profiadau sy’n gweithio ar draws amrywiaeth o themâu pynciol gan gynnwys realiti, cynaladwyedd a’r amgylchedd. Dylunnir y profiadau hyn i gyfeirio a herio ein canfyddiadau mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Rwy’n artist sy’n defnyddio cyfryngau lluosog, gan weithio gyda gwrthrychau wedi’u crefftio, ac yn gwellgylchu deunyddiau’n aml, gan ddefnyddio cyfrifiadura diriaethol, goleuadau, drychau a lliw i greu naratifau a rhithiau sy’n mynd y tu hwnt i’r cyffredin. Rwy’n ceisio creu gwaith sy’n adlewyrchu’r haenau cuddiedig nad ydynt yn amlwg, gan drawsnewid yr amgylchedd cartref gor-gyfarwydd i ofod arddangosfa annaearol, digrif a chreadigol.