“Think bigger. Forget limits. Embrace the idea of endless possibility…. It will change you.”
– Marianne Williamson
What drives my work is the celebration of entertaining people with bright, quirky and unusual designs which compel the participants to consider the choices I have made throughout the project. My design ethos is to create big and settle for nothing but my best.
My design principle is to create mayhem with serenity, this is driven by my own personal madness. As a designer, I am quite disorganised and this I use as a strength; planning, coincidence and pressure mix together to create my ideas. This may be seen as an unorthodox way of designing but, to me, it is effective and can be shown throughout the choices I have made over the past three years of studying interior design. My strengths are having outrageous ideas that come from a big imagination.
My finished projects have my unique signature, exhibiting my influences and personality. This is something that I leave within my projects creating a brighter and smarter way of design.
“Meddyliwch yn fwy. Anghofiwch ffiniau. Cofleidiwch y syniad o bosibilrwydd di-ben-draw…bydd yn eich newid chi.”
– Marianne Williamson
Yr hyn sy’n sbarduno fy ngwaith i yw dathlu difyrru pobl gyda dyluniadau llachar, rhyfedd ac anarferol sy’n gorfodi’r cyfranogwyr i ystyried y dewisiadau rydw i wedi’u gwneud yn y prosiect i gyd. Fy ethos dylunio yw creu ar raddfa fawr a setlo am ddim llai na’m ngorau.
Fy egwyddor o ran dylunio yw creu anhrefn gyda llonyddwch, mae hyn yn cael ei gymell gan fy ngwallgofrwydd personol fy hun. Fel dylunydd, rwy’n eithaf anhrefnus ac rwy’n defnyddio hyn fel cryfder; mae cynllunio, cyd-ddigwyddiad a phwysau yn cymysgu gyda’i gilydd i greu fy syniadau. Efallai yr ystyrir hyn yn ffordd anghyffredin o ddylunio ond, i mi, mae’n effeithiol a gellir ei weld yn yr holl ddewisiadau rydw i wedi’u gwneud dros y tair blynedd diwethaf o astudio dylunio mewnol. Fy nghryfderau yw cael syniadau beiddgar sy’n dod o ddychymyg mawr.
Mae gan fy mhrosiectau gorffenedig fy llofnod unigryw, sy’n dangos fy nylanwadau a’m personoliaeth. Mae hyn yn rhywbeth rwy’n ei adael o fewn fy mhrosiectau gan greu ffordd fwy disglair a doeth o ddylunio.