I am driven to create.
Animation that inspires me most is the one that has me wonder how it has been done. I too want to create animation that makes people ponder on the technical and creative processes behind it. My animation is humorous, imaginative, colourful and unexpected. I enjoy seeing my ideas come to life, helping people to realise their own and to spark enthusiasm.
Striving to develop new ideas and to challenge myself I constantly explore new techniques, styles, software and materials. To expand my skill set I was part of professional projects from music videos to awareness campaigns and tv series. This gave me the opportunity to experience a variety of workflows, work with different teams and taught me effective communication skills.
For personal projects, I like to work intuitively from idea to execution. Finding inspiration in the creation process my flexible workflow allows spontaneous creative change. This gives me room to learn and explore new ways to animate my ideas. Lately, I researched craftsmanship and animation history, which inspired me to build a device that combines elements of stop motion and pixel art.
I’m motivated to apply and expand my knowledge of animation and enthusiastic to be part of the industry.
Rwy’n cael fy symbylu i greu.
Yr animeiddio sy’n fy ysbrydoli fwyaf yw’r un sy’n gwneud i fi feddwl sut mae wedi cael ei wneud. Rwyf finnau hefyd eisiau creu gwaith animeiddio sy’n gwneud i bobl fyfyrio ar y prosesau technegol a chreadigol y tu ôl iddo. Mae fy ngwaith animeiddio’n ddoniol, yn llawn dychymyg, yn lliwgar ac yn annisgwyl. Rwy’n mwynhau gweld fy syniadau’n dod yn fyw, gan helpu pobl i wireddu eu syniadau eu hunain a sbarduno brwdfrydedd.
A minnau’n ymdrechu i ddatblygu syniadau newydd ac i herio fy hun, rwy’n ymchwilio’n barhaus i dechnegau, arddulliau, meddalwedd a deunyddiau newydd. Er mwyn ehangu fy set sgiliau bûm yn rhan o brosiectau proffesiynol a amrywiodd o fideos cerddoriaeth i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a chyfresi teledu. Rhoddodd hyn gyfle i mi brofi amrywiaeth o lifoedd gwaith, gweithio gyda gwahanol dimau a dysgu sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Ar gyfer prosiectau personol, rwy’n hoffi gweithio’n reddfol o greu’r syniad i’w roi ar waith. Gan ddod o hyd i ysbrydoliaeth yn y broses greu, mae fy llif gwaith hyblyg yn caniatáu newid creadigol digymell. Mae hyn yn rhoi lle i mi ddysgu ac ymchwilio i ffyrdd newydd o animeiddio fy syniadau. Yn ddiweddar, rwyf wedi ymchwilio i hanes crefftwaith ac animeiddio, a bu i hynny fy ysbrydoli i adeiladu dyfais sy’n cyfuno elfennau o stopsymud a chelf bicselau.
Rwy’n llawn cymhelliant i gymhwyso ac ehangu fy ngwybodaeth am animeiddio ac yn frwdfrydig i fod yn rhan o’r diwydiant.