
I like everyone else on the planet are starting to realise and see firsthand the consequences of the bad and irresponsible habits we have made, many of these problems are remarkably simple and only exist due to poor or bad design that could have been avoided if done correctly first-time round. This is what set me on my path as a product designer with one objective in mind to complete before I retire, to completely reverse the damage that had been done in the past to the environment, animals, and people that live on this earth.
These are the fundamentals that drive me as a product designer and what I try to involve in my designs as much as possible. I am already starting to reverse the damage done by using my product design skills that I picked up and enhanced at Cardiff metropolitan university voted number one university in the UK by the Times 2021, like team working, drawing and digital drawing, CAD and my unique way of thinking when it comes to designing a product. Most designers think of the manufacturing and finish of a product but what I do differently is thinking of the entire life cycle of the product to make sure it’s able to be as recyclable and green as possible to ensure a circular economy and more importantly a better future.
Rydw i fel pawb arall ar y blaned yn dechrau sylweddoli a gweld â’m llygaid fy hun ganlyniadau’n harferion drwg ac anghyfrifol. Mae llawer o’r problemau hyn yn hynod o syml a dim ond yn bodoli oherwydd dylunio gwael y gellid bod wedi’i osgoi pe bai wedi cael ei wneud yn gywir y tro cyntaf. Dyma a’m rhoddodd ar ben ffordd i fod yn ddylunydd cynnyrch gydag un amcan mewn golwg i’w gwblhau cyn i mi ymddeol, sef gwrthdroi’n llwyr y difrod a wnaed yn y gorffennol i’r amgylchedd, anifeiliaid a phobl sy’n byw ar y ddaear.
Dyma’r hanfodion sy’n fy sbarduno fel dylunydd cynnyrch a’r hyn rwy’n ceisio’i wneud yn fy nghynlluniau gymaint â phosibl. Rydw i eisoes yn dechrau gwrthdroi’r difrod a wnaed drwy ddefnyddio fy sgiliau dylunio cynnyrch y gwnes i eu dysgu ac a gafodd eu hogi ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd – a ddaeth i’r brig mewn pleidlais yn y Times yn 2021 fel prifysgol orau’r DU – megis gweithio mewn tîm, lluniadu a lluniadu digidol, CAD a’m ffordd unigryw o feddwl wrth ddylunio cynnyrch. Mae’r rhan fwyaf o ddylunwyr yn meddwl am weithgynhyrchu a gorffeniad cynnyrch ond yr hyn rwy’n ei wneud yn wahanol yw meddwl am gylch bywyd cyfan y cynnyrch i sicrhau ei fod yn gallu bod mor ailgylchadwy a gwyrdd â phosibl er mwyn sicrhau economi gylchol ac yn bwysicach fyth dyfodol gwell.
• Behance https://www.behance.net/jacobwebber
• https://www.instagram.com/jacobwebberdesigns