
I have always had a passion for art and design. Ever since I was a child, I’ve always known what industry I’d like to have a career in. I have always considered many different elements of the art and design field, interior design being one of them. Every time I’ve stepped into a space, I’ve always appreciated how things are arranged and how the space is utilised, regardless of the type of space. I like to think about how designers and individuals have chosen to use colour schemes, soft furnishings, lighting, and display, within the design. As a designer, I am not drawn to following design trends. Instead, I want to encourage individuals to explore a one-of-a-kind design that speaks to them personally, as well as a design that is sustainable, inclusive, and accessible to all. I like to believe that I’m able to help people choose the right design for them and help them find out exactly what they’d like from the design.
In addition to interior design, I’m keen on becoming an art and design teacher. I believe I have a creative eye and can display a wide range of artistic abilities and approaches. I value inspiring others, and I feel I can help students develop their future career aspirations, whilst also expanding their imaginations. My undergraduate degree, I believe, has aided me in developing the skills necessary to become a competent teacher, which is why, after graduation, I’m considering pursuing a PGCE.
Mae gen i angerdd am gelf a dylunio erioed. Ers pan oeddwn i’n blentyn, rydw i wedi gwybod pa ddiwydiant yr hoffwn i gael gyrfa ynddo. Rydw i wedi ystyried llawer o wahanol elfennau o’r maes celf a dylunio erioed, ac mae dylunio mewnol yn un ohonyn nhw. Bob tro rydw i wedi camu i mewn i ofod, rydw i wedi gwerthfawrogi sut mae pethau’n cael eu trefnu a sut mae’r gofod yn cael ei ddefnyddio, waeth pa fath o ofod ydyw. Rwy’n hoffi meddwl am sut mae dylunwyr ac unigolion wedi dewis defnyddio cynlluniau lliw, dodrefn meddal, goleuadau ac arddangos, yn y dyluniad. Fel dylunydd, dydy dilyn ffasiynau dylunio ddim yn apelio ataf. Yn hytrach, rydw i am annog unigolion i archwilio dyluniad unigryw sy’n apelio atyn nhw’n bersonol, yn ogystal â dyluniad sy’n gynaliadwy, yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Rwy’n hoffi credu fy mod i’n gallu helpu pobl i ddewis y dyluniad cywir iddyn nhw a’u helpu i ddarganfod beth yn union yr hoffen nhw ei gael o’r dyluniad.
Yn ogystal â dylunio mewnol, rwy’n awyddus i ddod yn athro celf a dylunio. Rwy’n credu bod gen i lygad greadigol a gallaf ddangos amrywiaeth eang o alluoedd a dulliau artistig. Rwy’n gweld gwerth mewn ysbrydoli eraill, ac rwy’n teimlo y galla i helpu myfyrwyr i ddatblygu eu dyheadau gyrfa yn y dyfodol, wrth iddyn nhw ehangu eu dychymyg hefyd. Rwy’n credu bod fy ngradd israddedig wedi fy helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn athro cymwys, a dyna pam rwy’n ystyried dilyn TAR ar ôl graddio.
• https://www.instagram.com/karahughesinteriordesign/
• https://www.facebook.com/karajayneartanddesign/