As a Maker I am inspired by sustainable materials and design. In a world of limited resources, I feel it is crucial to consider the impact that our making processes will have on the environment. My lighting designs are made using a waste by-product of sheep farming and as a result is a completely biodegradable wool-based material. Sheep’s wool currently has a very low demand and farmers often end up sending it to landfill. My work creates a second life for the low value material, resulting in a high value product, which is environmentally friendly. The forms of my lighting also reflects our environment as they are derived from naturally weathered rocks from the welsh coast.
For some designs I have used steam bent, Welsh timber to engage with traditional skills and contribute to encouraging the use of locally sourced, sustainable materials. My work challenges the issue of the increasing global supply chain of cheaper materials resulting in quality, local timber being used as firewood. My work promotes the connection between designers and locally sourced materials with the view to make quality, high value designs.
Fel Crëwr rwyf wedi fy ysbrydoli gan ddeunyddiau a dyluniad cynaliadwy. Mewn byd o adnoddau cyfyngedig, rwy’n teimlo ei fod yn hollbwysig i ystyried yr effaith y bydd ein prosesau creu’n ei chael ar yr amgylchedd. Mae fy nyluniadau goleuo’n cael eu creu gan ddefnyddio sgil-gynnyrch ffermio defaid ac o ganlyniad i hynny mae’n ddeunydd cwbl fio-ddiraddadwy sy’n seiliedig ar wlân. Ar hyn o bryd mae galw isel iawn am wlân defaid ac yn aml mae ffermwyr yn ei anfon i safleoedd tirlenwi. Mae fy ngwaith yn creu ail fywyd i’r deunydd isel ei werth yma, gan arwain at gynnyrch gwerth uchel sy’n llesol i’r amgylchedd. Mae ffurfiau fy ngoleuo hefyd yn adlewyrchu ein hamgylchedd gan ei bod yn deillio o greigiau wedi’u hindreulio’n naturiol o arfordir Cymru.
Ar gyfer rhai dyluniadau rwyf wedi defnyddio pren o Gymru a blygwyd ag ager er mwyn ystyried sgiliau traddodiadol a chyfrannu at annog y defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy o ffynonellau lleol. Mae fy ngwaith yn herio mater y gadwyn gyflenwi fyd-eang gynyddol o ddeunyddiau rhatach gan arwain at ddefnyddio pren lleol o safon fel coed tân. Mae fy ngwaith yn hyrwyddo’r cysylltiad rhwng dylunwyr a deunyddiau o ffynonellau lleol gyda golwg ar greu dyluniadau gwerth uchel o safon.