This Birds of Britain collection is inspired by native and migratory species. Some are permanent residents that can be seen year round while others are visitors for just a short while. I have always enjoyed observing birds and, while most do possess a great sense of grace and poise, they equally have a tendency to be rather goofy and uncoordinated. To me, this presents such an endearing quality that I believe Ill never tire of. Each different species provides such a variety of intriguing physical attributes and this collection presents these fascinating creatures in variety of illustrated and abstract fabrics.
Mae’r casgliad Adar Prydain hwn wedi’i ysbrydoli gan rywogaethau brodorol ac ymfudol. Mae rhai’n drigolion parhaol y gellir eu gweld trwy gydol y flwyddyn ac mae rhai eraill yn dod i aros dim ond am gyfnod byr. Rwyf bob amser wedi mwynhau arsylwi adar ac, er bod gan y mwyafrif ohonynt ymdeimlad mawr o osgeiddrwydd ac osgo, gallant hefyd dueddu bod braidd yn ddwl ac anghydlynus. Dyma rinwedd mor annwyl i mi nad wyf yn tybio y byddaf byth yn blino arno. Mae pob rhywogaeth wahanol yn dangos cryn amrywiaeth o rinweddau corfforol diddorol ac mae’r casgliad hwn yn cyflwyno’r creaduriaid cyfareddol hyn mewn amrywiaeth o ffabrigau darluniedig a haniaethol.