My main focus of my work is to look past the obvious and identify the changes, be it in my own life and in my artwork.
Change is constant whether we notice it or are oblivious to it. This subject matter of change can relate to anyone and anything. Change for me is hard, it’s a disturbance. My work is about the chaos of not being able to notice and adapt to the change.
An example of change within my work is light to dark and enclosed and open space. The layering process mimics the build-up of the hidden changes and experiences, which are apparent in my own life and the world around me.
The use of geometrical shapes to create layered pattern investigates the structure and forms. Screen printing allows my work to be transformed and repeated in various ways by reproducing the same pattern whilst adapting variables such as colour or changing the orientation of the screen. This regains a sense of control in the creative process where exploring change is the main concern, therefore processing change in a new way.
Prif ffocws fy ngwaith yw edrych heibio i’r amlwg ac adnabod y newidiadau, boed hynny yn fy mywyd fy hun ac yn fy ngwaith celf.
Mae pethau’n newid yn barhaus, p’un ai y byddwn yn sylwi hynny neu’n hollol anymwybodol ohono. Mae newid yn destun sy’n gallu bod yn berthnasol i unrhyw un ac i unrhyw beth. Nid gwaith hawdd i mi yw newid. Mae’n aflonyddu arnaf. Mae fy ngwaith yn ymwneud â’r anhrefn llwyr o beidio â bod yn gallu sylwi ar newid ac addasu iddo.
Enghraifft o newid o fewn fy ngwaith yw golau i dywyllwch a gofod amgaeedig ac agored. Mae’r broses haenu yn dynwared cronni profiadau a newidiadau cudd, sy’n amlwg yn fy mywyd i fy hun ac yn y byd o’m cwmpas.
Mae defnyddio siapiau geometrig i greu patrwm haenog yn archwilio’r strwythur a’r ffurfiau. Mae sgrin-brintio yn galluogi fy ngwaith i gael ei drawsffurfio a’i ail-adrodd mewn gwahanol ffyrdd drwy atgynhyrchu’r un patrwm gan addasu newidynnau megis lliw neu newid gogwydd y sgrin. Mae hyn yn adfer ymdeimlad o reolaeth yn y broses greadigol lle y bydd archwilio newid yn ddiddordeb pennaf i fi, gan brosesu newid felly mewn ffordd newydd.