Lucy is an illustrator and pattern designer with a passion for uncovering hidden histories through colourful, decorative images, patterns and scenes, often using paper cuts and painting.
Lucy’s practice stems from her love of history. She teaches herself about stories from the past, uncovering hidden truths that an everyday person may not know. Through her developing range of patterned homeware Lucy aims to bring pattern, joy and beauty to more homes. Through doing this, she also aims to make history more accessible; a place for celebrating by shedding light on the past and telling stories about historic events through illustration.
Her main inspiration is the strong women of the past who may have been neglected by the history books. This collection focuses on Aethelflaed, Lady of the Mercians, daughter of Alfred the Great, King of Anglo-Saxon Wessex. Aethelflaed was born around 870 AD. at the height of the Viking invasions of England. Aethelflaed ruled Mercia and her brother Edward, the new king of Wessex, continued Alfred’s work in defeating the Vikings and taking the land back for the Anglo Saxons.
Few women would have had the power that Aethelflaed held, she is thought to be the only woman known to have ruled in her own right at this time. Her exploits are recorded in the Anglo-Saxon Chronicles, yet the history books have largely forgotten about her. Despite the work she did to take back what would become England. This series of work tells the story of Aethelflaed’s life.
Darlunydd a chynllunydd patrymau yw Lucy sy’n hoff o ddatgelu hanesion cudd drwy ddefnyddio delweddau, patrymau a golygfeydd lliwgar ac addurnol, ac mae’n aml yn defnyddio darnau o bapur sydd wedi’u torri.
Mae celf Lucy yn deillio o’i hoffter o hanes. Mae’n dysgu ei hunan am straeon o’r gorffennol, ac yn datgelu gwirioneddau cudd na fyddai rhywun arferol yn gwybod amdanyn nhw efallai. Drwy ei chasgliad datblygol o nwyddau cartref patrymog, mae Lucy yn gobeithio dod â phatrwm, llawenydd a harddwch i ragor o gartrefi. Drwy wneud hyn, mae hi hefyd yn gobeithio gwneud hanes yn fwy hygyrch; yn lle i ddathlu drwy daflu goleuni ar y gorffennol, ac adrodd straeon am ddigwyddiadau hanesyddol drwy ddarlunio.
Ei phrif ysbrydoliaeth yw menywod cryf y gorffennol a allai fod wedi cael eu gadael allan o lyfrau hanes. Mae’r casgliad yma’n canolbwyntio ar Aethelflaed, Arglwyddes y Mersiaid, merch Alffred Fawr, Brenin Wessex a’r Eingl-Sacsoniaid. Cafodd Aethelflaed ei geni tua’r flwyddyn 870 pan oedd goresgyniadau’r Llychlynwyr ar Loegr ar eu hanterth. Roedd Aethelflaed yn rheoli Mersia, a pharhaodd ei brawd Edward, brenin newydd Wessex, â gwaith Alffred wrth drechu’r Llychlynwyr ac ailgipio’r tir dros yr Eingl-Sacsoniaid.
Ychydig iawn o ferched a fyddai wedi cael y math o bŵer oedd gan Aethelflaed, ac mae rhai’n credu mai hi oedd yr unig ferch i reoli i’r graddau yma yn y cyfnod hwnnw. Mae ei chyflawniadau wedi’u cofnodi yn y Croniclau Anglo-Sacsonaidd, ond mae’r llyfrau hanes wedi anghofio amdani i raddau helaeth, er ei gwaith i ailfeddiannu tir a fyddai’n cael ei alw’n Lloegr yn ddiweddarach. Mae’r gyfres yma’n adrodd hanes bywyd Aethelflaed.