I use illustration as a research tool, playing with dualities to make sense of surrounding realities.
Sitting against the familiar background of debates about ‘post-truth’, ‘fake news’ and ‘alternative facts’ my work challenges the idea of one universal truth by exploring the variety, complexity, and diversity of truths experienced in everyday life. My investigation culminates in The Printed Word, an illustrated reportage publication. I find reportage illustration very interesting as it sits between journalistic practices, providing perhaps more subjective ways of portraying truth.
The work aims to offer a variety of perspectives and remind the viewer that a story can be constructed from many accounts, and reality perceived from many levels.
The result is a liminal landscape of delicate artist’s books arranged in conversation with each other. These books open an in-between space, leaving room for the unsaid, for potential conversations and for the viewer to find their own glimpses of truth.
Rwy’n defnyddio darlunio fel adnodd ymchwil, gan chwarae gyda deuoliaeth i wneud synnwyr o wirioneddau o’n hamgylch.
Ochr yn ochr â’r cefndir cyfarwydd o ddadleuon am ‘ôl-wirionedd’, ‘newyddion ffug’ a ‘ffeithiau amgen’ mae fy ngwaith yn herio’r syniad o un gwirionedd cyffredinol drwy archwilio amrywiaeth a chymhlethdod y gwirioneddau sy’n cael eu profi mewn bywyd bob dydd. Mae fy ymchwiliad yn gorffen gyda The Printed Word, cyhoeddiad sy’n croniclo gyda darluniau. Rwy’n credu bod croniclo trwy ddarluniau’n ddiddorol iawn gan ei fod yn eistedd rhwng arferion newyddiadurol, gan ddarparu ffyrdd mwy gwrthrychol o gyfleu’r gwirionedd efallai.
Mae’r gwaith yn ceisio cynnig amrywiaeth o safbwyntiau ac yn atgoffa’r gwyliwr y gellir creu stori o nifer o adroddiadau, ac y gellir canfod realiti ar sawl lefel.
Y canlyniad yw tirlun trothwyol o lyfrau cain artistiaid wedi’u trefnu mewn sgwrs â’i gilydd. Mae’r llyfrau hyn yn agor gofod rhyngol, yn gadael lle ar gyfer pethau heb eu dweud, ar gyfer sgyrsiau posibl ac i’r gwyliwr ganfod ei gipolygon ei hun ar y gwirionedd.