My work is designed to promote a sense of relaxation and pleasure; I achieve this by incorporating all kinds of materials and techniques and by the inspiration to be found all around us. What makes them unique is that no two pieces of glasswork are the same. The glass process that I use, lace glass, is completely unpredictable, the glass can be pushed into a basic shape but the rest is left entirely to the fusing and/or slumping in the kiln the shapes and patterns that emerge are visually appealing, colourful and interesting.
My work was initially inspired by the ‘Faberge Imperial Eggs’ and as a result of follow up research, I discovered egg carving/etching onto larger organic eggs shells and ‘Pysanky’ a Ukrainian art form of egg decorating which is achieved by using a series of dyes and wax for a wax resist method to make the designs.
I have produced my work using porcelain slip, egg shapes made using a plaster mould of an ostrich egg, a glass process called lace glass made using multi coloured bullseye frit in powdered, fine, medium and coarse textures and fused in a glass kiln. By not restricting the glass’ movement by over packing it, it will shift and fuse allowing it to create spaces/holes in the glass making random patterns. I also use reclaimed glass, this could be sea glass that I have collected myself from local beaches, or old pieces of decorative glass from charity shops or that I have been given.
Mae fy ngwaith wedi’i ddylunio i hybu ymdeimlad o ymlacio ac o bleser; rwy’n cyflawni hyn drwy gynnwys pob math o ddeunyddiau a thechnegau a thrwy’r ysbrydoliaeth sydd i’w chanfod o’n cwmpas ym mhob man. Yr hyn sy’n eu gwneud yn unigryw yw na fydd unrhyw ddau ddarn o waith gwydr fyth yr un. Mae’r broses wydr a ddefnyddiais, sef gwydr les, yn broses na allwch rhagweld ei chanlyniad o gwbl; mae’n bosib gwthio’r gwydr i siâp sylfaenol ond caiff y gweddill ei adael yn gyfan gwbl i’r ymdoddi a/neu’r slympio yn yr odyn. Mae’r siapiau a’r patrymau a fydd yn dod allan yn apelgar i’r llygad, yn lliwgar ac yn ddiddorol.
Ar y dechrau, ‘Wyau Ymerodrol Faberge’ wnaeth ysbrydoli fy ngwaith ac, o ganlyniad i waith ymchwil dilynol, fe wnes i ddarganfod cerfio/ysgythru wyau ar blisgyn wyau organig mwy o faint ynghyd â ffurf o addurno wyau o’r Wcrain o’r enw Pysanky, sy’n cael ei gyflawni drwy ddefnyddio cyfres o lifynnau a chwyr er mwyn bod â dull gwrthgwyr i gael gwneud y dyluniadau.
Rwyf wedi cynhyrchu fy ngwaith drwy ddefnyddio slip porslen, siapiau wyau a wneud drwy ddefnyddio mowld plaster o wy estrys, proses wydr o’r enw gwydr les a wnaed drwy ddefnyddio ffrit Bullseye amryliw mewn gweadeddau powdrog, mân, canolig a garw gan eu hymdoddi mewn odyn gwydr. Drwy beidio â chyfyngu ar symudiad y gwydr drwy ei orlenwi, bydd yn symud ac yn ymdoddi gan adael iddo greu gofodau/tyllau ym mhatrymau di-drefn y broses wydro. Byddaf hefyd yn defnyddio gwydr wedi’i ddefnyddio o’r blaen: gallai hwn fod yn wydr môr a gasglais fy hunan o draethau lleol neu hen ddarnau o wydr addurniadol o siopau elusen neu mae pobl wedi’u rhoi i mi.