I believe that design should be inclusive, representative, and sustainable. I also believe that design should never be boring. I am most interested in decorating commercial spaces to be enjoyed by many people. My interior design ‘style’ is eclectic and colourful, often referencing the history of the host building in order to make its inhabitants feel more connected to the place. This approach, combined with my playfulness as a designer and a modern spin, creates exciting spaces in which people feel welcome. My schemes are visually rich and colourful, often taking inspiration from art movements, film aesthetics, history, and popular culture. As my schemes often reference the past, I have a great interest in sourcing second-hand furniture and decorative items, as I believe this is a more sustainable and a more interesting approach to designing a space. I believe I have original and exciting ideas for the world of interior design, and the technical skills and knowledge to execute my schemes well.
Rwy’n credu y dylai dyluniadau fod yn gynhwysol, yn gynrychioliadol ac yn gynaliadwy. Rydw i hefyd yn credu na ddylai dyluniadau fyth fod yn ddiflas. Fy niddordeb pennaf yw addurno mannau masnachol sydd i’w mwynhau gan lawer o bobl. Mae fy ‘arddull’ dylunio mewnol yn eclectig a lliwgar, yn aml yn cyfeirio at hanes yr adeilad dan sylw er mwyn gwneud i’w drigolion deimlo mwy o gysylltiad â’r lle. Mae’r dull hwn, ynghyd â’m chwarëusrwydd fel dylunydd ac agwedd fodern, yn creu mannau cyffrous lle mae pobl yn teimlo bod croeso iddynt. Mae fy nghynlluniau’n weledol gyfoethog a lliwgar, yn aml yn cael eu hysbrydoli gan symudiadau celf, estheteg ffilm, hanes, a diwylliant poblogaidd. Gan fod fy nghynlluniau’n aml yn cyfeirio at y gorffennol, mae gen i ddiddordeb mawr mewn cyrchu dodrefn ac eitemau addurnol ail-law, oherwydd rwy’n credu bod hyn yn ddull mwy cynaliadwy a mwy diddorol o ddylunio man. Credaf fod gen i syniadau gwreiddiol a chyffrous ar gyfer y byd dylunio mewnol, a’r sgiliau technegol a’r wybodaeth i gyflawni fy nghynlluniau’n dda.