In this project I have been exploring the hierarchy of materials within ceramics as a study into the accustomed narratives of museum curation. The dichotomy of terracotta; the iron rich “baked earth” most of us could find in our back gardens, and porcelain; a material perceived as the superior to earthenware and stoneware clays, embodies my questioning of the histories presented in museum collections and how the materiality of an artefact plays into its perceived cultural significance.

At the focal point of my configurations sits the figure, allowing the viewer to either immerse themself in the composition, or to view the scene as the outsider. The use of incorporated platforms amongst the abstracted forms emphasises that the context and display of objects is as intrinsic to our interpretation of value as the artefacts themselves. Within my sculptures I have utilised mass-manufactured porcelain to highlight the disposability of these objects as well as incorporating found and chattered brick from a local stretch of coast. Both of these collected materials have their own heritage, one provides shelter and safety, the other represents consumer culture and trends. Depending on who you are either option could be viewed as more of a necessity, but historically this binary of clay responds to the profound history of humankind. Thousands of years ago clay allowed humans to cook and store foods more effectively, with this innovation came the ability to plan ahead, to amount excess, and thus sprung the opportunity to create objects that transcended function: art.


Yn y prosiect hwn rwy wedi bod yn archwilio hierarchaeth deunyddiau o fewn cerameg fel astudiaeth o naratifau cyfarwydd curadu amgueddfa. Deubarthiad terracotta; y “pridd pob” llawn haearn y gallai’r mwyafrif ohonon ni ddod o hyd iddo yn ein gerddi, a phorslen; deunydd a fernir yn well na chleiau priddfaen a chrochenwaith caled, yn ymgorffori fy nghwestiynu’r hanesion a gyflwynir mewn casgliadau amgueddfa a sut mae materoldeb arteffact yn cyfrannu at ei arwyddocad diwylliannol canfyddedig.

Yn ganolog i’m ffurfweddau mae’r ffigur, sy’n gadael i’r gwyliwr naill ai ymgolli yn y cyfansoddiad, neu edrych ar yr olygfa fel yr allanolwr. Mae defnydd platfformau ymgorfforedig ymhlith y ffurfiau haniaethedig yn pwysleisio bod cyd-destun ac arddangosiad gwrthrychau mor annatod i’n dehongliad o werth â’r arteffactau eu hun. O fewn fy ngherfluniau rwy wedi defnyddio porslen wedi’i fasgynhyrchu i amlygu pa mor dafladwy mae’r gwrthrychau hyn yn ogystal ag ymgorffori briciau caffaeledig a maluriedig o ardal arfordir lleol. Mae gan y ddau ddefnydd hyn a gasglwyd eu treftadaeth eu hun, y naill yn cynnig lloches a diogelwch, y llall yn cynrychioli diwylliant a thueddiadau defnyddwyr. Yn dibynnu ar bwy ydych chi gallai’r naill opsiwn neu’r llall gael ei weld fel mwy o angenrhaid, ond yn hanesyddol mae’r ddeuoliaeth clai yma’n ymateb i hanes dwfn dynolryw. Miloedd o flynyddoedd yn ôl gadawodd clai i bobl goginio a storio bwydydd yn fwy effeithiol, a’r arloesi yma’n dod â’r gallu i flaengynllunio, i gadw gwarged, ac o hynny daeth y cyfle i greu gwrthrychau a oresgynodd swyddogaeth: celfyddyd.