I have had an passion for interior design, ever since I was young. I have always identified potential to enhance or compose the appearance and usability of spaces visually. My passion for interior design started while always wanting to change the design of my bedroom over and over again, with new furnishings and styles. I have pursued this further throughout my education, from secondary school to college. At the hand of this, I decided to study a degree in this field at Cardiff Metropolitan University.
I found my time, studying a BA(Hons) Degree in Interior Design at Cardiff Metropolitan University, very valuable and it has expanded my knowledge substantially. Over the 3-year period of obtaining my degree I have been introduced to an extensive range of methods, topics and sources. This has shaped me to becoming a junior interior designer that focuses on objects and their relationships with space. Composing, visualising and simulating exclusive settings whilst adhering to both singular and collaborative briefs.
Studying my degree has led me to have had the opportunity to individually research into Neurodiversity.I created my work by using the skills I have developed within my discipline, such as using technical skills, including CAD, Adobe Photoshop, model-making skills and Sketch Up Pro. These skills will follow with me on to a postgraduate course and will allow opportunity for growth and development.
Rydw i wedi bod ag angerdd parhaus dros ddylunio mewnol, byth ers pan oeddwn i’n ifanc. Erioed, rydw i wedi nodi potensial i wella neu lunio ymddangosiad a defnyddioldeb mannau’n weledol. Dechreuodd fy angerdd dros ddylunio mewnol pan oeddwn i’n wastad eisiau newid dyluniad fy ystafell wely dro ar ôl tro, gyda dodrefn ac arddulliau newydd. Rydw i wedi canlyn hyn ymhellach trwy gydol fy addysg, o’r ysgol uwchradd i’r coleg. Oherwydd hyn, penderfynais astudio gradd yn y maes hwn ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Roedd fy amser yn astudio Gradd BA (Anrh) mewn Dylunio Mewnol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn werthfawr iawn ac mae wedi ehangu fy ngwybodaeth yn sylweddol. Dros y cyfnod o 3 blynedd i ennill fy ngradd, cefais fy nghyflwyno i ystod eang o ddulliau, pynciau a ffynonellau. Mae hyn wedi fy ffurfio’n ddylunydd mewnol iau sy’n canolbwyntio ar wrthrychau a’u perthnasedd â gofod. Llunio, delweddu ac efelychu lleoliadau dethol wrth gadw at friffiau unigol a chydweithredol.
Drwy astudio fy ngradd, cefais fy arwain at gyfle i ymchwilio’n unigol i Niwro-amrywiaeth. Fe wnes i greu fy ngwaith trwy ddefnyddio’r sgiliau rydw i wedi’u datblygu o fewn fy nisgyblaeth, megis defnyddio sgiliau technegol, gan gynnwys CAD, Adobe Photoshop, sgiliau gwneud modelau a Sketch Up Pro. Byddaf yn dwyn y sgiliau hyn gyda mi ar gwrs ôl-raddedig a byddant yn caniatáu cyfle i dyfu a datblygu.