I have begun to appreciate that any interior space has the power to influence an individual, specifically affecting their behaviour, mood and productivity. However, in this crisis of climate change, I strongly urge that all building interiors incorporate sustainable practice into their designs. Necessarily, modern designers must aim towards replacing key components of their spaces with sustainable alternatives, whilst maintaining a positive influence on the individual. The field of Bioluminescent technology shows promising research and could replace artificial lighting in the near future.
Personally, the concept stage of a project is the most important, as I am able to compile and filter all my ideas to move forward with the best possible design. I often express my concepts through multiple mediums, including sketching and model making to visual my ideas better. By utilizing my skill sets in various computer software, I can convert my drawings into high-resolution life-like images. A key factor of my designs includes the integration of sustainable practice while also considering the influence on an individual within the space, which requires extensive research to execute.
As my previous projects have all resulted in virtue, I strongly feel that I would be a valued asset to any team. I possess the creativity to generate multiple ideas and the perseverance to tackle challenging design briefs. My several experiences of working within a team have led to my confidence to both lead and follow, whilst continuously completing my tasks to the highest standards.
Rydw i wedi dechrau gwerthfawrogi bod gan unrhyw ofod mewnol y pŵer i ddylanwadu ar unigolyn, gan effeithio’n benodol ar ei ymddygiad, ei hwyliau a’i gynhyrchiant. Fodd bynnag, yn yr argyfwng newid hinsawdd hwn, rwy’n credu’n gryf y dylai pob adeilad gynnwys ymarfer cynaliadwy yn eu dyluniadau. O reidrwydd, mae’n rhaid i ddylunwyr modern geisio disodli elfennau allweddol o’u gofodau gyda dewisiadau cynaliadwy, gan gadw dylanwad cadarnhaol ar yr unigolyn yr un pryd. Mae maes technoleg Bioymoleuol yn dangos ymchwil addawol a allai gymryd lle golau artiffisial yn y dyfodol agos.
Yn bersonol, cam cysyniad prosiect yw’r cam pwysicaf, gan fy mod yn gallu llunio a hidlo fy holl syniadau i symud ymlaen gyda’r dyluniad gorau posib. Rwy’n mynegi fy nghysyniadau drwy amrywiol gyfryngau yn aml, gan gynnwys braslunio a gwneud modelau i ddelweddu fy syniadau’n well. Drwy ddefnyddio fy setiau sgiliau mewn gwahanol fathau o feddalwedd cyfrifiadurol, gallaf drosi fy lluniau’n ddelweddau cydraniad uchel tebyg i fywyd go iawn. Mae ffactor allweddol yn fy nyluniadau’n cynnwys integreiddio ymarfer cynaliadwy ond gan ystyried y dylanwad ar unigolyn yn y gofod hefyd, sy’n gofyn am ymchwil helaeth i’w gyflawni.
Gan fod rhinwedd wedi deillio o’m prosiectau blaenorol i gyd, rwy’n credu’n gryf y byddwn yn gaffaeliad gwerthfawr i unrhyw dîm. Rwy’n meddu ar y creadigrwydd i gynhyrchu syniadau lluosog a’r dyfalbarhad i fynd i’r afael â briffiau dylunio llawn her. Mae fy mhrofiadau amrywiol o weithio mewn tîm wedi datblygu fy hyder i arwain a dilyn, tra’n cwblhau fy nhasgau i’r safonau uchaf yn barhaus.