My practice is an exploration of the way I visually perceive the coastline. I investigate how I interpret the world, the moments remembered, overlooked and the way I interpret colours and textures.
Visual perception is the way in which a person understands the world through what is seen. This experience is influenced by the emotional and physical conditions of the person. The act of looking is a subconscious act, it is involuntary and unique to each person. It is influenced by past experiences and will inevitably impact on an individual’s future perception and experiences.
My subconscious view of the landscape absorbs elements unseen by others, with a particular focus on disassociated colours. Painting allows an exclusive expression of how I see the world, in addition to the fluidity of the paint reflecting upon the fluidity of the coast. Examining the materiality of paint is vital in capturing a moment within a landscape. These moments are reflected upon in my abstract paintings.
Abstract painting allows the viewer to look past objects and representation, to explore emotion and experience within a painting, whilst pushing the boundaries of perception and understanding of the world. Abstract paintings allows individuals an insight into my perception of the coastline.
Mae fy ymarfer yn archwilio’r ffordd y byddaf yn synied yn weledol am yr arfordir. Rwy’n ymchwilio i sut y byddaf yn dehongli’r byd, yr eiliadau a gofiwyd, y rhai gafodd eu hanwybyddu a’r ffordd y byddaf yn dehongli lliwiau a gweadeddau.
Canfyddiad gweledol yw’r ffordd y bydd person yn deall y byd drwy’r hyn a welir. Bydd amgylchiadau emosiynol a ffisegol person yn dylanwadu ar y profiad hwn. Mae’r weithred o edrych yn un sydd yn yr is-ymwybod, mae’n anwirfoddol ac yn unigryw i bob person. Mae profiadau’r gorffennol yn dylanwadu arno ac mae’n anochel y bydd yn effeithio ar ganfyddiad a phrofiad person yn y dyfodol.
Bydd fy ffordd is-ymwybodol o weld y dirwedd yn amsugno elfennau nas gwelir gan eraill, â ffocws arbennig ar liwiau datgysylltiedig. Mae peintio yn fy ngalluogi i fynegi mewn ffordd unigryw sut rwy’n gweld y byd, yn ogystal â llifedd y paent yn myfyrio ar lifedd yr arfordir. Mae archwilio cyfansoddiad y paent yn hollbwysig o ran dal moment o fewn tirlun. Mae modd myfyrio ar yr eiliadau hyn yn fy mhaentiadau haniaethol.
Mae peintio haniaethol yn galluogi’r gwyliwr i edrych heibio i wrthrychau ac i gynrychiolaeth, ac i archwilio emosiwn a phrofiad o fewn paentiad, gan wthio ar yr un pryd ffiniau canfyddiad a’n deall ninnau o’r byd. Mae paentiadau haniaethol yn rhoi mewnwelediad i unigolion i’m canfyddiad innau o’r arfordir.