
I would describe my art as confessional; I take inspiration from my life events and feelings surrounding these experiences, I translate this through my work. I see my practice as a portal from my life in which I can lose myself and explore the deepest truths of my emotions. I consider my work to be a response to these events and this, combined with the creative process, is both ritualistic and intimate.
My core focus within this is portraiture, often through text. I have adopted a more simplistic approach with the aim of expressing these events and delicate feelings as they are. I have a keen interest in exploring portraiture by working with statements others have said to or about me and allowing these statements to speak for themselves. My work intends to expose or advertise these as well as myself through sharing some of my most intimate thoughts and feelings. Often, this includes parts of me of which I am ashamed.
By using opposing colour palettes and/or materials against forthright texts, my objective is to mislead or lure the viewer and induce subtle discomfort or awkwardness through the subject matter.
I am a multidisciplinary artist although, of late, I have been mainly focussing on print and textiles. However, I have been known to work with other disciplines such as collage, sculpture and performance/videography.
Rwy’n disgrifio fy nghelf fel cyffesol; Rwy’n hoffi cael fy ysbrydoli gan ddigwyddiadau fy mywyd a’r teimladau sy’n gysylltiedig â’r profiadau yma, a chyfleu hynny drwy fy ngwaith. Rwy’n gweld fy ymarfer fel porth o fy mywyd lle gallaf ymgolli ac archwilio gwirioneddau dyfnaf fy emosiynau. Ystyriaf fy ngwaith fel ymateb i’r digwyddiadau yma ac mae hyn, ar y cyd â’r broses greadigol, yn ddefodol ac yn agos-atoch.
Fy ffocws sylfaenol yn hyn o beth yw portreadau, yn aml drwy destun. Rwyf wedi mabwysiadu ymagwedd fwy syml gyda’r bwriad o fynegi’r digwyddiadau yma a theimladau tyner fel y maent. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn archwilio portreadau drwy weithio gyda datganiadau a ddywedwyd wrthyf gan neu amdanaf gan eraill a chaniatáu i’r datganiadau hynny siarad drostynt eu hunain. Bwriad fy ngwaith yw datgelu neu hysbysebu’r rhain yn ogystal â mi fy hun drwy rannu rhai o’r meddyliau a’r teimladau mwyaf agos-atoch. Yn aml mae hyn yn cynnwys rhannau ohonof sy’n codi cywilydd arnaf.
Drwy ddefnyddio paletau lliw gwrthgyferbyniol a/neu ddeunydd yn erbyn testunau di-flewyn-ar-dafod, fy mwriad yw camarwain neu ddenu’r gwyliwr a pheri anghysur neu letchwithdod cynnil drwy’r gwrthrych.
Rwy’n artist amlddisgyblaethol er fy mod, yn ddiweddar, wedi bod yn canolbwyntio’n bennaf ar brint a thecstiliau. Serch hynny, rwyf wedi gweithio mewn cyfryngau eraill megis collage, cerflunwaith a pherfformiad/fideograffeg.
• https://www.instagram.com/leighheddrobertsart