Ideal western modern living habitats are strong, secure and most importantly, sealed off from any intruding outside elements. A home with drafts, dirt or leaking rain water, is a rundown one, to be sold at a low price. Striving far to avoid contact with inconvenient natural elements during our lives, we replace existing environments; laying down foundations of concrete and bricks throughout paths, workplaces, homes and cities, allowing our day to day lives to function more efficiently. But in becoming physically detached from our environment, we may have also become mentally detached too; maintaining an attitudes of disregarding our destructive actions towards the earth as a common normality of modern society.
My work explores the concept of allowing nature back into our habitats. What if natural materials featured in our homes? It would mean slightly more inconvenience in our lives, but it would begin to rebuild the lost connection with our environment. Perhaps this renewed connection would kickstart a more positive attitude to our relationship and caring with the earth.
Mae cynefinoedd byw modern delfrydol y gorllewin yn rhai cryf, sicr ac, yn fwyaf pwysig, maen nhw’n cau allan unrhyw elfennau allanol a allai ymyrryd. Mae cartref sy’n ddrafftiog, yn frwnt neu sy’n gollwng dŵr glaw, yn un sydd wedi dirywio, i’w werthu am bris isel. Drwy weithio’n galed i osgoi dod i gyswllt ag elfennau naturiol anghyfleus yn ystod ein bywydau, byddwn yn amnewid amgylcheddau presennol; yn gosod sylfeini o goncrid a briciau ar gyfer llwybrau, mannau gwaith, cartrefi a dinasoedd, gan adael ein bywydau bob dydd i weithio’n fwy effeithlon. Ond drwy ddatgysylltu’n gorfforol oddi wrth ein hamgylchedd rydym o bosib wedi datgysylltu’n feddyliol hefyd, gan gynnal agwedd o anwybyddu ein gweithredoedd dinistriol tuag at y ddaear ac ystyried hynny yn rhan normal o’r gymdeithas fodern.
Mae fy ngwaith yn archwilio’r cysyniad o adael natur yn ôl i mewn i’n cynefinoedd. Beth petai deunyddiau naturiol yn nodweddion yn ein cartrefi? Byddai’n golygu ychydig mwy o anghyfleustra yn ein bywydau ond byddai’n dechrau adeiladu’r cyswllt coll â’n hamgylchedd. Efallai byddai adfer y cysylltiad hwn yn sbarduno agwedd fwy cadarnhaol i’n perthynas a’n gofal dros y ddaear.