
Design is one of the few mediums that reaches every corner of the globe and touches everyone. We as a race, have no shortage of problems that need solving or issues that need addressing. To me, design is all about creating innovative solutions to these challenges. Throughout all of my design work, I have been adamant that I don’t want to design something just to make a quick profit, designing for the sake of design if you will. I want to be a part of the new and upcoming generation of designers, genuinely looking to have a positive impact in the world.
I have always enjoyed making things; I was a huge fan of Lego and Airfix when I was younger. I really enjoy real-life problem solving and when I set my mind to solving these problems I don’t give up until they’re fixed. I’m passionate about my design work and am always looking to add new techniques and skills to my repertoire. I really enjoy the challenges that come with starting a new design brief, whether that be working as part of a new team or starting a personal project. I have thoroughly enjoyed working closely with clients on live projects, developing a creative design solution and presenting back to them. I am very much looking forward to continuing my journey into the world of design in the future.
Dylunio yw un o’r ychydig gyfryngau sy’n cyrraedd pob cwr o’r byd ac yn cyffwrdd â phawb. Fel hil, mae gennym ni broblemau di-ben-draw sydd angen eu datrys a materion di-ri y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw. Creu atebion arloesol i’r heriau hyn yw dylunio i mi. Yn fy holl waith dylunio, rydw i wedi bod yn gwbl bendant nad ydw i am ddylunio rhywbeth i wneud elw cyflym yn unig, gan ddylunio er mwyn dylunio os mynnwch chi. Rydw i am fod yn rhan o’r genhedlaeth newydd nesaf o ddylunwyr, sydd ag awydd gwirioneddol i gael effaith gadarnhaol yn y byd.
Rydw i wedi mwynhau gwneud pethau erioed; roeddwn i wrth fy modd gyda Lego ac Airfix fel plentyn. Rwy’n mwynhau datrys problemau bywyd go iawn a phan fyddaf yn penderfynu datrys y problemau hyn, dydw i ddim yn rhoi’r gorau iddi hyd nes y byddan nhw wedi’u datrys. Mae fy ngwaith dylunio’n agos at fy nghalon ac rwy’n awyddus i ychwanegu technegau a sgiliau newydd at fy repertoire bob amser. Rwy’n mwynhau’r heriau a ddaw yn sgil dechrau brîff dylunio newydd yn fawr, boed hynny’n gweithio fel rhan o dîm newydd neu’n dechrau prosiect personol. Rydw i wedi mwynhau gweithio’n agos gyda chleientiaid ar brosiectau byw, datblygu datrysiad dylunio creadigol a’i gyflwyno iddyn nhw. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau â’m taith i fyd dylunio yn y dyfodol.
• https://www.behance.net/alexsmith196
• https://www.instagram.com/alex.s_designs/