Over the last year, through my practice, I have been experimenting with different forms of self-expression. however since last summer, the summer of 2018 it became more personal as I focused more on the emotions tied to different recent events in my life. I started using my own emotions as a starting point first with paint and canvas but I did not feel that my paintings really captured the intensity of my emotion. I feel that using animation as a medium has brought my work to life. i have been drawing inspiration from abstract artists like sassily Kandinsky and Joan Mitchell recently for my work leading up to the degree show, i have been working more and more spontaneously and abstractly which I feel keeps my work authentic in expressing my most intense emotions. I have decided to focus more specifically on confusion and loneliness for the degree show as I feel that they are not only my most strong emotions but theses particular emotions are felt by everyone and are therefore relatable. I have tried to step away fro pre-meditated planning of my work and organising compostion in order to keep my work true to how I feel and in a way express myself straight from my brain onto the paper. this is why I first document my emotions on to many sheets of paper as fast as I can and without too much thought, I then turn these drawings and marks into the animations you see before you.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, drwy fy ymarfer, dwi wedi bod yn arbrofi gyda gwahanol fathau o hunanfynegiant. Fodd bynnag ers yr haf diwethaf, haf 2018, daeth yn fwy personol wrth i mi ganolbwyntio mwy ar yr emosiynau sydd ynghlwm wrth wahanol ddigwyddiadau diweddar yn fy mywyd. Fe ddechreuais i ddefnyddio fy emosiynau fy hun fel man cychwyn, gyda phaent a chynfas i ddechrau, ond doeddwn i ddim yn teimlo bod fy mhaentiadau’n cyfleu dwyster fy emosiwn mewn gwirionedd. Dwi’n teimlo bod defnyddio animeiddio fel cyfrwng wedi dod â’m gwaith yn fyw. Dwi wedi cael fy ysbrydoli gan artistiaid haniaethol fel Sassily Kandinsky a Joan Mitchell yn ddiweddar yn fy ngwaith yn arwain at y sioe radd. Dwi wedi bod yn gweithio’n fwyfwy digymell a haniaethol a dwi’n teimlo bod hynny’n cadw fy ngwaith yn ddilys wrth fynegi fy emosiynau mwyaf dwys. Dwi wedi penderfynu canolbwyntio’n fwy penodol ar ddryswch ac unigrwydd ar gyfer y sioe radd gan fy mod i’n teimlo nid yn unig mai’r rhain yw fy emosiynau cryfaf i, ond hefyd fod pawb yn eu teimlo nhw ac felly’n gallu uniaethu â nhw. Dwi wedi ceisio camu oddi wrth gynllunio fy ngwaith yn rhagfwriadol a threfnu cyfansoddiad er mwyn cadw fy ngwaith yn adlewyrchiad gwir o’r ffordd dwi’n teimlo, ac mewn ffordd mynegi fy hun yn syth o’m hymennydd ar y papur. Dyma pam dwi’n cofnodi fy emosiynau’n gyntaf ar lawer o daflenni o bapur mor gyflym ag y gallaf a heb feddwl gormod, yna dwi’n troi’r lluniadau a’r marciau hyn yn animeiddiadau fel y gwelwch o’ch blaen.