I believe that being a designer allows for the opportunities to provide solutions and improvements to a user’s lifestyle. It is my driving principle to communicate the emotions of design ideas to a project until a valid problem is resolved.

My focus as a designer is to improve the user’s experience by understanding the emotional link to a problem. I approach these problems using an iterative design process where the design solution is developed around the interactions with the user. My strengths are within the detailed research and innovative concept development of a design.

During my degree I have been a part of multiple successful projects, for example I was nominated at the w2w design awards for my work on a furniture solution to a collaborative co-working space. The project was developed around circular economy and making the product as sustainable as possible. I was able to push my engineering skills during my technical project which was to design a method of measuring how much pressure is sustained across an athletes shoe in order to provide an output to the user for when a shoe is in an unnatural negative state. As a designer I believe it is massively important to design a product that will be beneficial to a user’s life, in my final major project at university I carried out extensive research into the state of happiness and designed a product that better impacts the number one solution to happiness, family.


Credaf fod bod yn ddylunydd yn cynnig cyfleoedd i ddarparu atebion a gwelliannau i ffordd o fyw defnyddwyr. Yr egwyddor sy’n fy sbarduno yw cyfathrebu emosiynau syniadau dylunio i brosiect hyd nes y ceir ateb i broblem ddilys.

Fy mhwyslais fel dylunydd yw gwella profiad y defnyddiwr trwy ddeall y cysylltiad emosiynol â phroblem. Rwy’n mynd i’r afael â’r problemau hyn gan ddefnyddio proses ddylunio iterus lle caiff yr ateb dylunio ei ddatblygu wrth ryngweithio â’r defnyddiwr. Fy nghryfderau yw gwneud gwaith ymchwil manwl a datblygu cysyniad arloesol dyluniad.

Fel rhan o’m cwrs gradd, bues i’n rhan o sawl prosiect llwyddiannus. Er enghraifft, cefais fy enwebu yng ngwobrau dylunio w2w am fy ngwaith yn creu dodrefn ar gyfer gweithle cydweithredol. Datblygwyd y prosiect ar sail gofynion economi gylchol a sicrhau bod y cynnyrch mor gynaliadwy â phosib. Llwyddais i ddatblygu fy sgiliau peirianneg yn ystod fy mhrosiect technegol, sef cynllunio dull o fesur faint o bwysedd sydd ledled esgid athletwr er mwyn darparu allbwn i’r defnyddiwr pan mae’r esgid mewn cyflwr negyddol annaturiol. Fel dylunydd, credaf ei bod hi’n hollbwysig dylunio cynnyrch a fydd o fudd i fywyd defnyddiwr. Yn fy mhrosiect mawr olaf yn y brifysgol, cynhaliais ymchwil helaeth i’r cyflwr o hapusrwydd a dylunio cynnyrch sy’n cael effaith well ar yr ateb gorau i hapusrwydd, sef teulu.

To design a household family calendar device/system that uses modern technology to assist the user to stay better in touch and up-to-date with important family members and events. The product must prompt users with pro-active reminders, in order to better organise daily routines.


Dylunio dyfais/system calendr teulu i’r cartref sy’n defnyddio technoleg fodern i gynorthwyo’r defnyddiwr i gadw cysylltiad yn well a chael gwybod y diweddaraf gydag aelodau pwysig o’r teulu a digwyddiadau. Mae’n rhaid i’r cynnyrch brocio cof defnyddwyr gyda dulliau atgoffa rhagweithiol, er mwyn trefnu arferion bob dydd yn well.

MiFamily calendar assistant has been designed to fit into any contemporary environment. The beautiful eye catching visuals allow for users to better organise daily schedules.


Mae’r cynorthwyydd calendr MiFamily wedi’i ddylunio i gydweddu ag unrhyw amgylchedd cyfoes. Mae’r elfennau gweledol hardd a deniadol yn galluogi defnyddwyr i drefnu amserlenni dyddiol yn well.

To design Furniture that fits into the circular economy model and improves natural human interactions in the work/learning space. Olio furniture allows the user to work collaboratively and individually in a modern workplace environment.


Dylunio Dodrefn sy’n cydweddu â’r model economi gylchol ac yn gwella rhyngweithiadau dynol naturiol yn y man gweithio/dysgu. Mae dodrefn Olio yn galluogi’r defnyddiwr i weithio ar y cyd ac yn unigol mewn amgylchedd gweithle modern.

To target the emerging trend of home beer consumption by designing a more cost-effective and less wasteful beer dispensing system, that offers the consumer a unique, contemporary and satisfying pint pouring experience for the comfort of their own home.


Targedu’r duedd sy’n dod i’r amlwg o yfed cwrw cartref, trwy ddylunio system cyflenwi cwrw sy’n fwy cost-effeithiol ac yn llai gwastraffus, sy’n cynnig profiad arllwys peint unigryw, cyfoes a boddhaol i’r defnyddiwr yn esmwythder ei gartref ei hun.

Product Design Instagram